Isaiah 32

Bydd cyfiawnder yn teyrnasu

1Edrychwch, bydd brenin yn teyrnasu yn gyfiawn,
a'i dywysogion yn rheoli yn deg.
2Bydd pob un ohonyn nhw fel cysgod rhag y gwynt,
a lloches rhag y storm;
fel nentydd o ddŵr mewn tir sych,
neu gysgod craig enfawr
mewn crasdir.
3Bydd llygaid y rhai sy'n gweld yn edrych,
a chlustiau'r rhai sy'n clywed yn gwrando.
4Bydd y difeddwl yn oedi ac yn sylwi,
a thafod y rhai sydd ag atal dweud yn siarad yn glir.
5Fydd y ffŵl ddim yn cael ei alw'n ŵr bonheddig,
na'r twyllwr yn cael ei anrhydeddu.
6Achos dweud pethau ffôl mae ffŵl
a cynllunio i wneud pethau drwg.
Mae'n ymddwyn yn annuwiol
ac yn dweud celwydd am yr Arglwydd.
Mae'n gadael y newynog hefo stumog wag
ac yn gwrthod rhoi diod i'r sychedig.
7Mae arfau'r twyllwr yn ddrwg.
Mae'n cynllunio i wneud drwg –
dinistrio pobl dlawd trwy eu twyllo
a cham-drin yr anghenus yn y llys.
8Ond mae bwriadau'r person anrhydeddus yn dda,
ac mae bob amser yn gwneud beth sy'n nobl.

Cosbi gwragedd Jerwsalem

9Chi wragedd cyfforddus, safwch!
Gwrandwch arna i!
Chi ferched heb bryder yn y byd,
gwrandwch beth dw i'n ddweud!
10Mewn llai na blwyddyn,
cewch chi sydd mor hyderus eich ysgwyd.
Bydd y cynhaeaf grawnwin yn methu,
a dim ffrwyth i'w gasglu.
11Dylech chi sy'n gyfforddus ddechrau poeni!
Dylech chi sydd mor ddibryder ddechrau crynu!
Tynnwch eich dillad! Stripiwch!
Gwisgwch sachliain am eich canol,
12ac am y bronnau sy'n galaru!
Dros y caeau hyfryd,
a'r coed gwinwydd ffrwythlon.
13Dros dir fy mhobl,
bydd drain a mieri yn tyfu.
Ie, dros yr holl dai hyfryd,
a'r dre llawn miri.
14Bydd y palas wedi ei adael,
a'r ddinas boblog yn wag.
Bydd y tyrau amddiffyn ar y bryniau
yn troi'n foelydd am byth –
yn gynefin i asynnod gwyllt
a phorfa i breiddiau.
15Nes i ysbryd oddi uchod gael ei dywallt arnon ni,
i'r anialwch gael ei droi'n gaeau ffrwythlon,
a'r caeau droi'n goedwig.
16Pan fydd cyfiawnder yn aros yn yr anialwch
a thegwch yn cartrefu yn y caeau.
17Bydd cyfiawnder yn arwain i heddwch,
ac wedyn bydd llonydd a diogelwch am byth.
18Bydd fy mhobl yn byw mewn cymunedau saff,
tai diogel, a lleoedd i orffwys yn dawel.
19Er i'r goedwig gael ei thorri i lawr gan genllysg
ac i'r ddinas orwedd mewn cywilydd,
20y fath fendith fydd i chi sy'n hau wrth ffrydiau dŵr,
ac yn gollwng yr ych a'r asyn yn rhydd i bori.
Copyright information for CYM